Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (48) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30.
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 14.31.
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ledaeniad y firws Schmallenberg a’i oblygiadau ar gyfer diwydiant amaethyddol Cymru.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.41.
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Diwygio Lles
Dechreuodd yr eitem am 14.49.
4. Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Cronfa Twf Economaidd Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.26.
5. Dadl ar y Fframwaith Iechyd Rhyngwladol Drafft
Dechreuodd yr eitem am 16.00.
NDM4922 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried y Fframwaith Iechyd Rhyngwladol drafft, a anfonwyd
at yr Aelodau drwy e-bost ar 20 Chwefror 2012; a
2. Yn nodi’r hyn sydd yn y Fframwaith ynghylch:
a) cryfhau cysylltiadau iechyd Cymru o fewn y gymuned iechyd
ryngwladol; a
b) sicrhau bod cymuned iechyd ehangach Cymru yn cael mwy o
amlygrwydd y tu hwnt i’n ffiniau.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd denu’r deallusion rhyngwladol gorau ym maes iechyd i Gymru drwy gyfrwng gweithgareddau ymchwil addysg uwch o’r radd flaenaf.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau a oedd yn weddill o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwneud toriadau o 8.4 y cant mewn termau real i GIG Cymru ac y gallai hyn lesteirio’i allu i greu mwy o gysylltiadau rhyngwladol a’u gwella.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
41 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod iechyd yng Nghymru ar ei hôl hi o’i gymharu â rhanbarthau a gwledydd y byd sy’n cyflawni’r canlyniadau iechyd gorau oll.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
9 |
28 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'i chysylltiadau yn y gymuned iechyd ryngwladol i archwilio’r dewisiadau ar gyfer rhaglen i leihau'r niferoedd sy'n cael eu derbyn mewn ysbyty, yn debyg i’r rhaglen sydd wedi’i threialu’n llwyddiannus yn Camden, New Jersey.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4922 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried y Fframwaith Iechyd Rhyngwladol drafft, a anfonwyd
at yr Aelodau drwy e-bost ar 20 Chwefror 2012;
2. Yn nodi’r hyn sydd yn y Fframwaith ynghylch:
a) cryfhau cysylltiadau iechyd Cymru o fewn y gymuned iechyd
ryngwladol; a
b) sicrhau bod cymuned iechyd ehangach Cymru yn cael mwy o
amlygrwydd y tu hwnt i’n ffiniau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd denu’r deallusion rhyngwladol gorau ym maes iechyd i Gymru drwy gyfrwng gweithgareddau ymchwil addysg uwch o’r radd flaenaf; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'i chysylltiadau yn y gymuned iechyd ryngwladol i archwilio’r dewisiadau ar gyfer rhaglen i leihau'r niferoedd sy'n cael eu derbyn mewn ysbyty, yn debyg i’r rhaglen sydd wedi’i threialu’n llwyddiannus yn Camden, New Jersey.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
6. Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.44.
NDM4921 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ‘Ateb yr Her, Arwain y Newid’.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi pryder am adroddiad diweddar gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n dangos bod y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y cyfoethocaf a’r tlotaf yng Nghymru wedi lledu, ac yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau, ar y cyd â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, i leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi pryder am ganfyddiadau’r adroddiad blynyddol, sy'n nodi bod pobl anabl bedair gwaith yn fwy tebygol o ddioddef trosedd na phobl nad ydynt yn anabl, ac yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd y camau priodol i fynd i'r afael â materion fel aflonyddu mewn cysylltiad ag anabledd a throseddau casineb anabledd.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant a oedd yn weddill o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r pryder a fynegwyd yn adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 'An Anatomy of Economic Inequality in Wales’, fod disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim 2.5 gwaith yn llai tebygol o gael graddau A*-C mewn pynciau craidd o’i gymharu â’u cyd-ddisgyblion, ac yn croesawu’r Grant Amddifadedd Disgyblion sy’n ceisio gwella’r sefyllfa hon.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
12 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4921 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ‘Ateb yr Her, Arwain y Newid’.
2. Yn mynegi pryder am adroddiad diweddar gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n dangos bod y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y cyfoethocaf a’r tlotaf yng Nghymru wedi lledu, ac yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau, ar y cyd â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, i leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.
3. Yn mynegi pryder am ganfyddiadau’r adroddiad blynyddol, sy'n nodi bod pobl anabl bedair gwaith yn fwy tebygol o ddioddef trosedd na phobl nad ydynt yn anabl, ac yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd y camau priodol i fynd i'r afael â materion fel aflonyddu mewn cysylltiad ag anabledd a throseddau casineb anabledd.
4. Yn nodi’r pryder a fynegwyd yn adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 'An Anatomy of Economic Inequality in Wales’, fod disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim 2.5 gwaith yn llai tebygol o gael graddau A*-C mewn pynciau craidd o’i gymharu â’u cyd-ddisgyblion, ac yn croesawu’r Grant Amddifadedd Disgyblion sy’n ceisio gwella’r sefyllfa hon.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.30.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:32.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 29 Chwefror 2012